About the Role
CHWILIO AM SWYDDI
CREADIGOL, CYNHWYSOL A LLAWN CYFLEOEDD.
Dyma brif feysydd y BBC
ADLONIANT
Rydym yn cynhyrchu cyfresi poblogaidd nodedig ac unigryw yn gyson ar gyfer cynulleidfaoedd y DU – o Wild Isles i Happy Valley, The Traitors i Ghosts. Roedd 7.4 miliwn wedi gwylio diweddglo dramatig cyfres 3 o The Traitors a ffilmiwyd yn Ucheldiroedd yr Alban.
Sarah Lancashire, Happy Valley
NEWYDDION
Mae’r BBC yn darparu newyddion a materion cyfoes lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol o’r radd flaenaf. Ni yw’r ffynhonnell newyddion fwyaf dibynadwy yn y DU ac yn rhyngwladol fel darlledwr. Rydyn ni’n chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r bygythiad o gamwybodaeth.
Amol Rajan, darlledwr radio’r BBC.
FFEITHIOL
Roedd 30% o’r DU - 18.5 miliwn o bobl - wedi gwylio ein cyfres natur nodedig Green Planet gyda Syr David Attenborough. Cyflwynodd neges bwysig am werthfawrogi’r amgylchedd gan ysbrydoli ein cynulleidfa i weithredu. Dyma gynnwys sy’n creu effaith.
David Attenborough, darlledwr y BBC.
SAIN
Deg rhwydwaith radio ledled y DU, dau wasanaeth radio cenedlaethol yr un yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a 39 o orsafoedd radio lleol ledled Lloegr ac Ynysoedd y Sianel. Cafodd yr ap Sounds ei chwarae 1.64bn gwaith y llynedd. Ac rydym yn darparu’r rhaglenni llafar a cherddoriaeth fyw gorau yn y DU.
Vick Hope, darlledwr radio’r BBC.
Go to slide 1
Go to slide 2
Go to slide 3
Go to slide 4
Pwrpas a Strwythur
PURPOSE AND STRUCTURE
Mae ein cenhadaeth a’n pwrpas unigryw yn gwasanaethu ein cynulleidfaoedd – yn y DU ac yn fyd-eang – gydag allbwn a gwasanaethau diduedd o ansawdd uchel sy’n hysbysu, addysgu a diddanu.
Rydyn ni’n gwthio ffiniau, yn herio’r meddwl ac yn cynhyrchu cynnwys mae pobl yn ei garu.
Yn y DU, mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu’n bennaf gan ffi’r drwydded, ond mae gennym hefyd weithgareddau masnachol a gweithgareddau byd-eang. BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf.
GWASANAETH CYHOEDDUS Y BBC
Mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu gan ffi’r drwydded i sicrhau gwerth i bob cynulleidfa. Mae’r BBC yn darparu portffolio enfawr o wasanaethau teledu, radio a gwasanaethau digidol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn y DU, a BBC World Service mewn dros 40 o ieithoedd.
RHAGOR O WYBODAETH AM WASANAETH CYHOEDDUS Y BBC >
BBC STUDIOS
BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf. Wedi’i sbarduno gan greadigrwydd, dyma’r cwmni cynhyrchu sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yn y DU, ac mae’n ddosbarthwr o safon fyd-eang. Mae elw Studios yn mynd yn ôl i’r Gwasanaeth Cyhoeddus i helpu i wneud mwy o raglenni gwych.
RHAGOR O WYBODAETH AM BBC STUDIOS >
FUTURE OF BBC/ TIM DAVIE QUOTE
“Mae’r BBC yn rym cadarnhaol i’r DU a’r byd. Rydym yn ddiduedd, yn arloesol ac yn greadigol, ac rydym bob amser yn edrych tua’r dyfodol.
Rydyn ni ar gyfer pawb, sy’n golygu bod angen i ni gael y bobl orau o bob cefndir i weithio i ni wrth i ni ddatblygu i fod yn sefydliad cyfryngau sy’n gwbl ddigidol yn gyntaf.”
– Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y BBC
Clywed gan rhai o’n staff
Jemma Nash
“Ers dechrau, dwi wedi gweithio ar draws sawl portffolio ym maes Plant ac Addysg. Yr hyn sy’n fy synnu’n fawr yw’r cyfleoedd i fod yn chi’ch hun yn y gweithle.”
Ebony
— Prentis Rheolwr Cynhyrchu
Ebony, prentis gyda’r BBC, yn gwisgo clustiau Pudsey gyda Hacker T Dog.
Orlando Turner
“Rydw i wrth fy modd bod fy swydd wedi rhoi’r cyfle i mi gyfarfod a rhwydweithio â phobl anhygoel a dysgu gan y dalent orau yn y diwydiant.”
Orlando Turner
— Peiriannydd Systemau AV, BBC Studios
Orlando Turner, un o weithwyr BBC Studios.
Natalie Preston a Faye
“Rwy’n gweithio fel Profwr yn y Tîm Technoleg Gynorthwyol. Mae’r ffaith bod y tîm yn bodoli yn siarad cyfrolau am sut mae’r BBC yn gwerthfawrogi hygyrchedd i bob defnyddiwr.”
Natalie
— Profwr, Grŵp Cynnyrch
Natalie, un o weithwyr y BBC, yn gwisgo top pinc llachar.
Go to slide 1
Go to slide 2
Go to slide 3
Ein Gwerthoedd
CYNULLEIDFAOEDD
Mae CYNULLEIDFAOEDD wrth galon popeth a wnawn.
CREADIGRWYDD
CREADIGRWYDD yw curiad calon ein sefydliad.
YMDDIRIEDAETH
YMDDIRIEDAETH yw sylfaen y BBC - rydym yn annibynnol, yn ddiduedd ac yn onest.
PARCHU
Rydym yn PARCHU ein gilydd – rydym yn garedig ac rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
ATEBOLRWYDD
Rydym yn ATEBOL ac yn cyflawni gwaith o’r safon uchaf.
UN BBC
UN BBC - rydym yn cydweithio, yn dysgu ac yn tyfu gyda’n gilydd.
MAE MWY O WYBODAETH AM EIN GWERTHOEDD YMA
Carwsél Gwobrau
LLEOLIADAU
Mae’r BBC yn sefydliad Prydeinig byd-eang. Gyda swyddfeydd, canolfannau cynhyrchu a stiwdios ledled y DU, mae llawer o gyfleoedd i weithio i’r BBC yn eich cymuned leol. Yn fyd-eang, ar draws Newyddion a BBC Studios, rydym yn gweithredu mewn dinasoedd mewn dros 60 o wledydd.
Does dim modd i ddarllenwyr sgrin ddarllen y map canlynol mae modd chwilio ynddo.
Dilynwch y ddolen hon i fynd i'n tudalen Chwilio am Swyddi i chwilio'n haws drwy'r swyddi sydd ar gael.
AI DYMA’R BBC I CHI?
GWELD SWYDDI AGORED
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol