Diweddariad pwysig: Mae rhagor o fesurau diogelwch yn dod i’n Safle Gyrfaoedd
O 30 Gorffennaf 2026 ymlaen, byddwn yn cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol i helpu i gadw eich cyfrif a’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Pan fyddwch yn creu cyfrif neu’n mewngofnodi i’ch porth Gyrfaoedd, byddwn yn anfon cod cyfrin untro (OTP) i’ch cyfeiriad e-bost. Rhowch y cod i gadarnhau mai chi sydd yno cyn mynd i mewn i’ch cyfrif.
Eisoes yn cael eich cyflogi gan y Brifysgol Agored neu OUW?
Ydych chi'n weithiwr presennol sy'n chwilio am rôl newydd? Os felly, mae’r Brifysgol Agored wedi lansio gwefan gyrfaoedd fewnol i ddod ag adnoddau i chi a all eich helpu i fod yn llwyddiannus yn eich swydd bresennol, neu ddod o hyd i swydd newydd yma yn y Brifysgol Agored.
Byddwch yn rhan o’r rheswm pam mae mwy o bobl yn cyflawni eu potensial ac yn gwella cymdeithas
Ynglŷn â ni
Fel prifysgol fwyaf Ewrop, mae’r Brifysgol Agored yn helpu dros 200,000 o bobl i gael addysg sy'n newid bywydau, bob blwyddyn.
Mae’r Brifysgol Agored yn arweinydd byd-eang ym maes addysg uwch. Ein cenhadaeth yw gwneud dysgu yn hygyrch i bawb, a gyda’n gilydd, rydyn ni eisoes wedi helpu dros 2 filiwn o fyfyrwyr i wireddu eu dyheadau.
Yn 1969 fe wnaeth y broses o greu’r Brifysgol Agored a’i huchelgais newid y byd, gan roi'r pŵer i ddysgu i unrhyw un, yn unrhyw le. Wedi’i chydnabod yn fyd-eang, mae’r Brifysgol Agored wedi arloesi ym maes dysgu agored a dysgu o bell ers dros 50 mlynedd, gan ddarparu addysgu eithriadol, yn seiliedig ar ymchwil sydd gyda’r gorau’n y byd, a chymorth gwych i'w myfyrwyr a'i staff academaidd.
Mae’r ysbryd arloesol a’r ethos agored hwn yn dal i lywio popeth a wnawn heddiw.
I'n myfyrwyr, ein gweithwyr, a thrwy ein hymchwil, rydyn ni’n cynrychioli byd lle mae posibiliadau'n ddiddiwedd a'r dyfodol yn agored.
Rydym yn ymroddedig i greu a rhannu gwybodaeth a dysg er mwyn gwireddu cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Fel addysgwr rydym yn gosod cynaliadwyedd wrth galon ein haddysgu, ymchwil, a chyfnewid gwybodaeth, ac fel busnes rydym yn hyrwyddo arfer gorau ar draws pedair gwlad y DU.
Mae ein hymchwil yn sail i'r addysgu a ddarparwn ac yn llywio'r adnoddau addysgol agored rhad ac am ddim o ansawdd uchel a ddarparwn i ddysgwyr ledled y byd.
Rheolwr Caniatâd Cwcis
Pan fyddwch chi’n ymweld ag unrhyw wefan, efallai y bydd gwybodaeth yn cael ei storio neu ei chadw ar eich porwr, gan amlaf ar ffurf cwcis. Gan ein bod yn parchu eich hawl i gael preifatrwydd, gallwch ddewis peidio â chaniatáu rhai mathau o gwcis. Ond, mae rhwystro rhai mathau o gwcis yn gallu effeithio ar eich profiad ar y safle a’r gwasanaethau rydym yn gallu eu cynnig.
Cwcis Gofynnol
Mae angen y cwcis yma i ddefnyddio’r wefan a does dim modd eu diffodd.
Cwcis Gweithredol
Mae’r cwcis hyn yn rhoi profiad gwell i’r cwsmeriaid ar y safle yma, fel cofio eich manylion mewngofnodi, cynnig y perfformiad fideo gorau, neu roi gwybodaeth i ni am sut mae ein safle yn cael ei ddefnyddio. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod y cwcis hyn unrhyw bryd. Os na fyddwch yn derbyn y cwcis hyn, mae’n bosib y bydd hyn yn effeithio ar rai swyddogaethau sydd ar gael drwy’r trydydd partïon hyn.
Cwcis Hysbysebu
Mae’r cwcis hyn yn cyflwyno hysbysebion sy’n berthnasol i’ch diddordebau. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod y cwcis hyn unrhyw bryd. Os na fyddwch yn derbyn y cwcis hyn, mae’n bosib y bydd hyn yn effeithio ar rai swyddogaethau sydd ar gael drwy’r trydydd partïon hyn.
Use our AI to tailor your resume for this Cymraeg (Deyrnas Unedig) position at The Open University.